Canlyniadau Chwilio - Dumas, Alexandre, 1802-1870

Alexandre Dumas

Nofelydd o Ffrainc oedd Alexandre Dumas (24 Gorffennaf 1802 - 5 Rhagfyr 1870). Mae'n fwyaf adnabyddus fel awdur ''Les Trois Mousquetaires'' a ''Le Comte de Monte-Cristo''.

Ganed ef yn Villers-Cotterêts yn département Aisne, yn fab i'r cadfridog Thomas Alexandre Dumas. Yn 1822, symudodd i ddinas Paris, lle bu'n gweithio yn y Palais-Royal yn swyddfa'r ''duc d'Orléans'' (Louis Philippe). Yno, dechreuodd ysgrifennu i gylchgronau a daeth yn adnabyddus fel dramodydd. Yn ddiweddarach, troes at ysgrifennu nofelau hanesyddol.

Daeth ei fab, Alexandre Dumas (1824-1895), yn adnabyddus fel nofelydd hefyd, yn arbennig fel awdur ''La Dame aux camélias''.

Claddwyd ef Villers-Cotterêts, ond yn 2002 codwyd ei gorff i'w ail-gladdu yn y Panthéon ym Mharis. Darparwyd gan Wikipedia
  • Dangos 1 - 1 canlyniadau o 1
Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1

    Catherine Howard: or, The throne, the tomb, and the scaffold. An historical play, in three acts gan Suter, William E., 1811?-1882

    Cyhoeddwyd 1870
    Awduron Eraill: “...Dumas, Alexandre, 1802-1870...”
    Cael y testun llawn
    Llyfr